Y Grŵp Trawsbleidiol ar Hinsawdd, Natur a Llesiant 

Cross Party Group on Climate, Nature and Wellbeing 

17:00 – 18:00 

26.10.2023 

Cyfarfod ar-lein dros Zoom 

Virtual meeting over Zoom 

  

  1. Croeso a chyflwyniad 

Welcome and introduction 

Delyth Jewell AS/MS  

  1. Cofnodion y cyfarfod diwethaf 

Minutes of the last meeting  

Delyth Jewell AS/MS 

  1. Llysgenhadon Hinsawdd Ieuenctid Cymru  

Youth Climate Ambassadors for Wales 

  1. Newid hinsawdd mewn ysgolion 

Rhiannon Hawkins, cynrychiolydd person ifanc yng Ngholeg Brenhinol y Seiciatryddion ac ymddiriedolwr yn y Green Economics Institute 

Climate Change in Schools   

Rhiannon Hawkins, young person representative for the Royal College of Psychiatrists and trustee at the Green Economics Institute 

  1. Trafodaeth grŵp a chyflwyno gwaith diweddar 

Group discussion and presentation of recent work 

  1.  Unrhyw fater arall a dyddiad y cyfarfod nesaf 

Any other business and date of next meeting  

Delyth Jewell AS/MS 

 

Yn bresennol:Antonia Fabian (AF), Erin Owain (EO), Ioan Bellin (IB), Laura Haig (LH), Michelle Bales (MB), Luke Jefferies (LJ), Ollie John (OJ), Patrick Jones (PJ), Rhiannon Hawkins (RH), Rob Palmizi (RP),  

Aelodau o’r Senedd a oedd yn bresennol:Delyth Jewell AS (DJ) 

Ymddiheuriadau: Delun Gibby, Heledd Fychan AS, Llyr Gruffydd AS, Mike Hedges AS, Molly Hucker

Cofnodion

Croeso a chyflwyniad / Welcome and introduction 

Cafodd aelodau’r grŵp eu croesawu a’u cyflwyno gan DJ. Yna, nododd DJ unrhyw ymddiheuriadau.  

Cofnodion y cyfarfod diwethaf / Minutes of the last meeting 

Bydd cofnodion y cyfarfod diwethaf yn cael eu cytuno yng nghyfarfod dilynol y Grŵp Trawsbleidiol.  

Llysgenhadon Hinsawdd Ieuenctid Cymru / Youth Climate Ambassadors for Wales   

Dywedodd RH fod y Llysgenhadon Hinsawdd Ieuenctid wedi lansio deiseb ym mis Gorffennaf er mwyn ceisio gorfodi’r Llywodraeth i gydnabod effaith newid hinsawdd ar ffoaduriaid, a’r ffaith bod pobl yn cael eu gorfodi i adael eu cartrefi yn sgil rhesymau sy’n ymwneud â’r hinsawdd. Mae'r Llysgenhadon Hinsawdd Ieuenctid yn galw ar wleidyddion lleol a sefydliadau eraill i lofnodi’r ddeiseb.  

Mae'r Llysgenhadon Hinsawdd Ieuenctid hefyd wedi cynnal cyfarfod â rhanddeiliaid allweddol yn ddiweddar. 

Gofynnodd LJ faint o lysgenhadon oedd yn rhan o’r Llysgenhadon Hinsawdd Ieuenctid, a pha mor hir y mae’r cynllun hwn wedi bod ar waith. Gofynnodd hefyd a fyddai gan y llysgenhadon ddiddordeb mewn cymryd rhan mewn gwaith ymchwil.  

Dywedodd RH fod rhwng 30 a 60 o lysgenhadon yn rhan o’r cynllun, gan gynnwys rhai sy’n iau na 18 oed ac aelodau hŷn. Cytunodd y byddai'n ddiddorol gwneud rhywfaint o waith ymchwil parthed y llysgenhadon sy'n gweithio i ysgogi newid cyfreithiol a gweithredu ymhlith pobl ifanc. 

Soniodd LH am y ffaith bod fod Eco-Sgolion Cymru a Maint Cymru yn cynnal digwyddiad COP ieuenctid ym mis Tachwedd, a fydd yn cael ei gynnal ochr yn ochr â’r COP go iawn. Anogodd RH i rannu’r wybodaeth hon.  

Atebodd RH y byddai modd iddi ei rhannu gyda'i chysylltiadau mewn ysgolion a’r bobl ar ei rhestr bostio.  

Newid hinsawdd mewn ysgolion – Rhiannon Hawkins, cynrychiolydd person ifanc yng Ngholeg Brenhinol y Seiciatryddion ac ymddiriedolwr yn y Green Economics Institute / Climate Change in Schools – Rhiannon Hawkins, young person representative for the Royal College of Psychiatrists and trustee at the Green Economics Institute 

Mae RH wedi bod yn gweithio ar ddatblygu siarter hinsawdd sy’n seiliedig ar yr hyn y mae pobl ifanc ac athrawon yn dymuno ei ddysgu / addysgu mewn ysgolion yng Nghymru mewn perthynas â newid hinsawdd. Dechreuodd y fenter hon drwy gydweithio rhwng RH ac athro daearyddiaeth a oedd yn aelod o TIDE Global Learning. Arweiniodd y syniad hwn at gynhadledd a wnaeth ddwyn ynghyd pobl ifanc o bob rhan o dde Cymru.  

Roedd y rhan gyntaf yn canolbwyntio ar wahanol themâu ym maes newid hinsawdd, gan gynnwys arloesi technolegol at ddibenion sero net, gweithredu, ac effaith newid hinsawdd ar iechyd meddwl pobl.  

Roedd gan y digwyddiad gwmpas cymdeithasol eang. Ei nod oedd rhoi mewnwelediadau gwahanol i'r bobl ifanc na fyddent wedi'u cael mewn amgylchedd ysgol, o bosibl.  

O ganlyniad i'r gynhadledd, lluniodd y bobl ifanc a'r athrawon 10 o alwadau ynghylch y modd y maent yn dymuno gweld addysg hinsawdd yn cael ei darparu mewn ysgolion.  

Sicrhaodd trefnwyr y digwyddiad cyllid gwerth £3,000 gan yr Ymddiriedolaeth Elusennol addysgol, gyda Phrifysgol Caerdydd yn darparu’r lleoliad yn rhad ac am ddim.  

Cynhelir cynhadledd ddilynol ym mis Rhagfyr, a fydd yn edrych ar sut mae ysgolion wedi gweithredu rhai o'r newidiadau a awgrymwyd a sut mae dysgu seiliedig ar hinsawdd wedi cael ei integreiddio mewn ysgolion.  

Wrth symud ymlaen, y nod yw cynnal y cynadleddau hinsawdd hyn yn genedlaethol, gydag un gynhadledd yn cael ei chynnal ym mhob un o’r dinasoedd mawr. 

Diolchodd LH i RH am y sgwrs. Nododd ei bod wedi gofyn am sgwrs bellach wrth iddi gydweithio â Llywodraeth Cymru at ddibenion darparu addysg hinsawdd ledled Cymru.  

Soniodd DJ fod cynnig wedi’i gyflwyno yn y Senedd yn ddiweddar i ddiwygio’r cwricwlwm a’r canllawiau ynghylch addysg hinsawdd, ynghyd ag ymdrechion athrawon i fynd i’r afael â gorbryder hinsawdd.  

Diolchodd PJ i RH am y sgwrs ragorol.  

Ychwanegodd OJ ei fod wedi bod yn ddigon ffodus i fynd i’r gynhadledd. Nododd fod y canlyniadau’n syfrdanol, gyda 250 o bobl ifanc yn ychwanegu at y siarter hinsawdd. Dywedodd hefyd ei bod yn hynod bwysig peidio ag addysgu newid hinsawdd o safbwynt gwyddonol yn unig. Mae'r digwyddiad wedi dod â llawer o gyfleoedd ar gyfer gwaith cadarnhaol.  

Trafodaeth grŵp a chyflwyno gwaith diweddar / Group discussion and presentation of recent work  

Cynigiodd DJ y gallai'r grŵp trawsbleidiol gwrdd unwaith bob tymor wrth symud ymlaen, a hynny er mwyn annog Aelodau eraill o’r Senedd i fod yn bresennol. 

Dywedodd RP fod Cronfa Treftadaeth y Loteri wedi cyhoeddi strategaeth newydd ynghylch ariannu prosiectau integredig yn ymwneud â llesiant. Dywedodd wrth y grŵp fod y gronfa yn chwilio am ymgeiswyr.  

Gofynnodd EO a oedd gan y grŵp unrhyw gynlluniau ar gyfer Wythnos Hinsawdd Cymru, a fydd yn cael ei chynnal tua diwedd mis Tachwedd. 

Dywedodd DJ fod y COP ieuenctid yn gysylltiedig â’r digwyddiad dan sylw. Ychwanegodd LH y bydd dau ddigwyddiad cysylltiedig yn cael eu cynnal – un yng Ngogledd Cymru ac un yn y de. 

Nododd RH mai 6 Rhagfyr yw dyddiad y gynhadledd ynghylch newid hinsawdd ar gyfer pobl Ifanc ac athrawon. 

Unrhyw fater arall a dyddiad y cyfarfod nesaf / Any other business and date of next meeting 

Nid oedd unrhyw fater arall 

Bydd dyddiad y cyfarfod nesaf yn cael ei bennu yn y dyfodol.